SL(6)697 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer newid rhestrau prisio’r dreth gyngor, a gwneud apelau i Dribiwnlys Prisio Cymru pan fo anghytundeb rhwng swyddog rhestru a pherson sy’n gwneud cynnig ar gyfer newid rhestr.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau 1993. Y prif ddiwygiadau yw gosod gofyniad ar swyddogion rhestru i ddarparu gwybodaeth am eiddo i drethdalwyr sydd wedi gwneud cynnig cymwys (“cynigydd”), a chaniatáu i gynigwyr apelio’n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru yn erbyn penderfyniadau gan y swyddog rhestru, neu yn dilyn methiant gan swyddog rhestru i wneud penderfyniad o fewn pedwar mis ar ôl cael cynnig. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi pwerau rheoli achos ychwanegol i Dribiwnlys Prisio Cymru sydd eisoes ar gael iddo wrth wrando ar apelau mewn perthynas â newid rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynigion a wneir ar 1 Chwefror 2026 neu ar ôl hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 9, mae’r geiriau mewn cromfachau ar ôl cyfeirio at “rheoliad 11” wedi’u nodi’n anghywir fel “(tynnu apelau yn ôl)”. Fodd bynnag, dylai nodi “(tynnu cynigion yn ôl)” gan mai “withdrawal of proposals” yw’r pwnc a nodir ym mhennawd rheoliad 11 o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn rheoliad 11(b), mae gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae’n nodi y bydd cyfeiriad newydd yn cymryd lle cyfeiriad presennol yn rheoliad 15(3)(b) o Reoliadau 1993 yn Saesneg, “10 or 10C”. Ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi y bydd cyfeiriad newydd yn cymryd lle’r cyfeiriad presennol yn Gymraeg, “10 neu 10C”. Fodd bynnag, dylai testun Cymraeg rheoliad 11(b) hefyd fewnosod y cyfeiriad newydd yn Saesneg oherwydd mai dim ond yn Saesneg yn hytrach nag yn ddwyieithog y gwnaed Rheoliadau 1993.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 14, yn rheoliad 19(2) newydd, disgrifir y cyfeiriad yn anghywir fel “sub-paragraphs (1)(a) or (c)”. Fodd bynnag, y disgrifiad cywir yw “paragraph (1)(a) or (c)”. Mae hefyd yn anghyson â chyfeiriadau eraill a ddisgrifir yn gywir yn y diwygiadau testunol megis y cyfeiriad at “paragraph (2)(b) or (c)” yn rheoliad newydd 25D(3) a fewnosodir gan reoliad 17 o’r Rheoliadau hyn.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

13 Ionawr 2026